30 Caswell Drive
Caswell
Abertawe
SA3 4RJ
Bethan Jenkins AC
Cadeirydd, Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
24 Hydref 2016
Annwyl Bethan
Adolygiad Llywodraeth Cymru o wasanaethau trefdadaeth
Pair cynllun presennol Llywodraeth Cymru i greu corff o’r enw ‘Cymru Hanesyddol’ gryn dipyn o bryder imi, a hynny am sawl rheswm:
1 Mae’r cynllun yn neilltuo ‘swyddogaethau masnachol’ oddi ar swyddogaethau eraill ein cyrff diwylliannol. Afraid dweud bod codi arian ganddynt yn rhywbeth i’w groesawu; yn wir, mae’n hanfodol. Ond peth drwg yw dyrchafu masnachu uwchben amcanion craidd y cyrff. I wneud codi arian yr unig sail ar gyfer ad-drefnu ar raddfa fawr yn gyfystyr ag ymddiried y dasg o arwain cerddorfa yn ei chyngerdd nesaf i reolwr y swyddfa docynnau.
2 Nid yw’n amlwg sut diffinnir ‘swyddogaethau masnachol’. Byddai diffiniad eithafol yn gadael yr Amgueddfa Genedlaethol fel rhyw sombi sefydliadol, yn sefyll o hyd (gydag anhawster) ond heb y gallu na’r adnoddau i gyflawni amcanion ei Siartr Frenhinol. (Neu, ai uno’r cyrff i gyd yn llwyr yw amcan terfynol y Llywodraeth tybed?)
3 Nid yw’n glir chwaith beth fydd statws cyfreithiol a sefydliadol ‘Cymru Hanesyddol’. Yn sicr bydd digon o botensial ar gyfer rhyfela dros dir a dyblygu rhyngddo a’r cyrff eraill. Wn i ddim am unrhyw wlad arall sydd wedi rhoi cynnig ar wneud yr hyn y mae’r Gweinidog yn ei gynnig.
4 Bydd creu ‘Cymru Hanesyddol’ yn broses ddrud a chymhleth, ar adeg o gynilo ac anhawster heb ei ail. Llafur caled dros dair blynedd oedd ei angen cyn cyrraedd Siartr Frenhinol ddiwygiedig y Llyfrgell Genedlaethol yn 2006, a hynny ar draul y gwaith craidd y dylai’r staff fod ei wneud ar y pryd. Yn ôl y cynllun hwn bydd dwy Siartr Frenhinol i’w adolygu, a llu o gyfnewidiadau astrus eraill.
5 O dan y cynllun mae’n debyg y bydd yr Amgueddfa Genedlaethol – a’r Llyfrgell Genedlaethol, os gorfodir hi i ddilyn yr un llwybr – yn colli ei hannibyniaeth, yn rhannol neu’n gyfan gwbl, ynghyd â’i statws fel corff Siartr Frenhinol, elusen a chwmni cyfyngedig. Ond gwledydd totalitaraidd yn unig sy’n mynnu cael rheolaeth dros eu sefydliadau diwylliannol cenedlaethol. Yn hanesyddol, pryd daw’r celfyddydau, diwylliant a’r cof cenedlaethol o dan reolaeth uniongyrchol yr wladwriaeth, bydd pawb ar eu colled.
6 Ymddengys i’r Gweinidog benderfynu eisoes pa ddewis yn yr adroddiad Investing in the future to protect the past fydd yn cael ei wireddu (opsiwn 4) – heb ymgynghori’n iawn â’r cyhoedd. Bydd y canlyniadau o weithredu opsiwn 4 mor bellgyrhaeddol fel bod rhaid i’r cyhoedd gael y cyfle i ymateb. Mae gormod yn y fantol i adael trafodaeth i’r grŵp caeedig y mae Mr Justin Albert yn ei gadeirio.
Sefydlwyd yr Amgueddfa Genedlaethol a’r Llyfrgell Genedlaethol er cadw cof cyffredin Cymru, a’i ddefnyddio i helpu adeiladau Cymru fydd. Am dros 100 blynedd mae’r ddau sefydliad wedi llwyddo i gyflawni’r ddau amcan hwn yn eu ffyrdd gwahanol. Maent yn annwyl i’r Cymry. Mae ganddynt enw rhyngwladol. Maent yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Peryglir hyn oll nawr gan gynlluniau’r Llywodraeth.
Rhaid ail-feddwl ar unwaith. Yn hytrach na gwthio ei gynllun, dylai’r Gweinidog ddefnyddio ei amser a’i adnoddau i amddiffyn ein sefydliadau cenedlaethol – trwy adfer y toriadau cyllidebol maent wedi eu dioddef a thrwy eu helpu i ffynnu fel cyrff annibynnol yn cyflawni’r amcanion y maent i fod i’w dilyn.
Dylen ni fel gwlad fod yn ddigon hunanhyderus ac uchelgeisiol fel y gallwn ni cadw a magu nifer o sefydliadau cenedlaethol llwyddiannus ac yn effeithiol. Ond ddylen ni?
Byddwn yn ddiolchgar pe bai modd ichi rannu cynnwys y llythyr hwn â’ch cyd-aelodau o’r Pwyllgor.
Cofion gorau,
Andrew Green
Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1998-13